Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae Sgrinio Serfigol Cymru yn newid pryd y maent yn fy ngwahodd i gael fy sgrinio?

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi argymell bod rhaglenni sgrinio serfigol yn gwahodd yr holl fenywod a phobl sydd â cheg y groth sy'n 25 - 49 oed bob 5 mlynedd os na cheir HPV yn eu prawf sgrinio serfigol rheolaidd. Mae bwlch sgrinio o 5 mlynedd wedi bod ar waith ar gyfer y rhai 50 – 64 oed yng Nghymru ers 2013. 

Cyrhaeddodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yr argymhelliad hwn drwy adolygu'r holl dystiolaeth sydd ar gael. Daethant i'r casgliad ei bod yn ddiogel ymestyn yr amser rhwng profion sgrinio serfigol i bobl nad oes ganddynt HPV. Yn ogystal ag adolygu'r dystiolaeth, cynhaliodd UK NSC ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgynghori ag elusennau canser. 

Mae’r argymhelliad yn cael ei weithredu ar gyflymder gwahanol ledled y DU ac mae ei gyflwyno yng Nghymru yn sicrhau bod Cymru yn unol â'r Alban. 

Gellir dod o hyd i'r ddolen i argymhelliad UK NSC yma