Mae tystiolaeth yn dangos bod manteision sgrinio serfigol yn drech nag unrhyw risgiau. Ynghyd â'r brechlyn HPV, sgrinio serfigol yw'r ffordd orau o amddiffyn rhag canser ceg y groth ac mae'n atal dros 7 o bob 10 diagnosis. Fodd bynnag, fel unrhyw brawf sgrinio, nid yw sgrinio serfigol yn gwbl gywir bob tro ac mae rhai risgiau.
Nod sgrinio yw nodi a yw person yn wynebu risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd serfigol neu ganser ceg y groth. Mae hyn yn golygu y gallant gael unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnynt cyn gynted â phosibl. Mae Cymru bellach yn defnyddio sgrinio sylfaenol HPV, sy'n brawf gwell gan ei fod yn seiliedig ar risg unigol. Mae hyn yn golygu bod pa mor aml y gwahoddir person ar gyfer sgrinio serfigol yn seiliedig ar y canlyniad diwethaf a bydd yr ailalw o fewn amserlen sy'n ddiogel iddynt.
Nid oes unrhyw raglen sgrinio yn gwbl gywir a cheir nifer bach o achlysuron pan roddir canlyniad positif anghywir neu ganlyniad negyddol anghywir.