Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw profion HPV?

Yn 2018, cyflwynodd Sgrinio Serfigol Cymru brofion HPV. Mae'r prawf hwn yn fwy effeithiol o ran nodi pobl â risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd sy'n gallu achosi canser ceg y groth. Drwy chwilio am y feirws sy'n achosi newidiadau celloedd, mae profion HPV yn nodi'r bobl hynny sy'n wynebu risg uwch o newidiadau celloedd a chanser ceg y groth yn gynharach. 

Gan fod profion HPV yn fwy sensitif ac effeithiol, mae'n brawf gwell i'n helpu i nodi pwy sy'n wynebu risg uwch ac sydd angen profion dilynol cynnar neu atgyfeirio i ymchwilio ymhellach, a phwy sy'n wynebu risg isel iawn ac nad oes angen ymchwilio ymhellach ar hyn o bryd. Mae hyn yn lleihau'r risg o niwed posibl sy'n gysylltiedig â thriniaeth ddiangen i'r rhai nad oes ei hangen o bosibl.