Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Feirws Papiloma Dynol (HPV)?

Mae'r feirws papiloma dynol (HPV) yn feirws sy'n achosi bron pob achos (99.8%) o ganser ceg y groth. Mae hwn yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad ag ef yn ystod eu bywydau. Mae tua 90% o bobl yn clirio'r feirws yn naturiol o fewn dwy flynedd heb unrhyw broblemau. Mae haint tymor hwy neu barhaus gyda mathau risg uchel o HPV yn gysylltiedig â risg o ddatblygu newidiadau celloedd a all arwain at ganser ceg y groth.