Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd wedi newid?

Bydd y bwlch rhwng gwahoddiadau sgrinio serfigol yn cael ei ymestyn o 3 i 5 mlynedd i rai menywod a phobl sydd â cheg y groth. Dechreuodd y newid hwn ar 1 Ionawr 2022, a bydd dim ond yn effeithio ar y rhai 25 – 49 oed os na cheir HPV yn eu sampl sgrinio serfigol rheolaidd nesaf. Ni fydd yn effeithio ar y rhai sydd ar lwybrau triniaeth neu ailadrodd cynnar lle roedd eu prawf diwethaf wedi dangos presenoldeb HPV.  

Bydd pobl o dan 50 oed a gafodd wybod ar ôl eu prawf diwethaf y byddant yn cael eu gwahodd mewn 12 mis neu dair blynedd yn dal i gael eu gwahoddiadau fel y nodwyd yn wreiddiol. Mae'r newid hwn dim ond yn berthnasol ar ôl eu prawf nesaf os na cheir HPV.