Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd wedi digwydd yn y cyfnod cyn y newid hwn yng Nghymru?

Ers mis Medi 2018, mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi defnyddio prawf ar gyfer HPV fel ei brif brawf sgrinio serfigol. Yn flaenorol, y prif brawf a ddefnyddiwyd gennym oedd sytoleg, sy'n edrych ar y celloedd. Mae HPV yn achosi 99.8% o'r holl ganserau serfigol felly mae profi ar gyfer y feirws yn fwy effeithiol nag edrych ar gelloedd yn unig. 

Os ceir HPV yn eich sampl sgrinio serfigol, cynhelir sytoleg a byddwch yn cael eich galw yn ôl am sgrinio dilynol bob blwyddyn, hyd yn oed os nad oes unrhyw newidiadau i'ch celloedd. Mae profion HPV yn galluogi mwy o ffocws a sgrinio dilynol i'r rhai sy'n wynebu risg uwch, h.y. y rhai sydd â'r feirws. Mae'r prawf HPV yn canfod pobl sydd â risg uwch cyn i newidiadau celloedd ddigwydd ac felly'n gynharach yn natblygiad unrhyw glefyd.