Beth os byddaf yn sylwi ar newidiadau cyn fy mhrawf sgrinio serfigol nesaf?
Mae'r rhaglen sgrinio serfigol yn ceisio canfod pobl sy'n wynebu risg uwch o ganser ceg y groth yn y rhai nad oes ganddynt symptomau perthnasol. Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych unrhyw symptomau, fel
rhedlif anarferol o'r wain
gwaedu ar ôl cael rhyw, rhwng mislifoedd neu ar ôl y menopos