Neidio i'r prif gynnwy

A yw'r newid yn cael ei wneud i arbed arian neu leihau nifer y menywod a welir mewn gofal eilaidd?

Nac ydy, nid yw'r newidiadau'n lleihau nifer yr atgyfeiriadau i ofal eilaidd. Mae'r rhai y mae eu profion yn dangos presenoldeb HPV a heb newidiadau celloedd yn cael profion dilynol bob blwyddyn, ac os yw HPV yn parhau i fod yn bresennol, maent yn cael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd (colposgopi) ar ôl eu trydydd canlyniad o'r fath, hyd yn oed os nad oes newidiadau celloedd wedi'u nodi. Os oes gan unigolion newidiadau celloedd yna byddant yn parhau i gael eu hatgyfeirio'n uniongyrchol ar gyfer colposgopi, fel y maent yn awr. 

Ar ôl y 3 blynedd gyntaf yn dilyn ymestyn y cyfnodau sgrinio ar gyfer y rhai o dan 50 oed, bydd llai o fenywod yn mynd i gael sgrinio rheolaidd y flwyddyn. Fodd bynnag, bydd y rhai sy'n wynebu risg uwch yn cael eu gwahodd yn ôl yn amlach fel y gellir eu monitro'n agosach. Er nad yw hwn yn ymarfer i arbed arian, yn ddiofyn, gall fod rhai arbedion i'r GIG yn y tymor hwy gan nad yw'r rhai sy'n wynebu risg isel bellach yn cael eu sgrinio'n amlach na'r angen.