Pan fydd y llwybr triniaeth wedi'i gwblhau ac mae person wedi'i ddychwelyd i ailalw rheolaidd gyda chanlyniad HPV negyddol (HPV heb ei ganfod), yna maent yn wynebu risg isel iawn o ddatblygu canser ceg y groth dros y 5 mlynedd nesaf.
Mae HPV yn achosi dros 99.8% o ganserau ceg y groth ac mae'r datblygiad o haint HPV i ganser ceg y groth yn cymryd amser hir (tua 10 i 15 mlynedd). Felly, os nad oes gan unigolyn HPV ar adeg y prawf sgrinio serfigol, mae ei risg o ddatblygu canser ceg y groth cyn y prawf sgrinio nesaf yn isel iawn.
Rydym yn annog pawb i fynd i gael sgrinio serfigol pan fyddant yn cael eu gwahodd. Os bydd unigolion yn datblygu unrhyw symptomau sy'n peri pryder yn y cyfamser fel rhedlif anarferol o'r wain, gwaedu yn ystod rhyw, rhwng mislifoedd neu'n dilyn y menopos, yna mae'n bwysig eu bod yn gweld eu meddyg teulu.