Byddwch yn cael eich archwilio gan nyrs neu feddyg o'r enw colposgopydd. Maent yn defnyddio colposgop, sy'n edrych fel pâr o ysbienddrych ar stand, i chwilio am newidiadau i'r celloedd. Mae cael colposgopi yn debyg iawn i gael prawf sgrinio serfigol.
Os bydd y colposgopydd yn gweld unrhyw newidiadau i'r celloedd, gall gymryd biopsi (pinsiad bach o groen). Weithiau byddwch yn cael cynnig triniaeth yn ystod eich ymweliad cyntaf.