Neidio i'r prif gynnwy

WL High-risk Human Papillomavirus (HPV) found, cell changes seen

27/06/22
Os oes angen sgrinio mwy aml arnaf, pam nad ydych wedi fy anfon i glinig Colposgopi?

Mae HPV yn feirws cyffredin y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei glirio'n naturiol o fewn 2 flynedd. Gan nad oes gennych unrhyw newidiadau i'r celloedd, nid oes angen i ni eich anfon i glinig colposgopi nawr. Byddwn yn parhau i'ch monitro a byddwn yn eich atgyfeirio i glinig colposgopi os ydych yn dal i fod yn HPV positif ar ôl 24 mis.

27/06/22
Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond roedd fy nghelloedd yn normal. Pam ydw i'n cael fy ngwahodd ymhen 12 mis?

Mae HPV yn feirws cyffredin y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei glirio'n naturiol. Fodd bynnag, gall rhai unigolion gymryd ychydig yn hirach i glirio'r feirws, weithiau gall yr unigolion hyn ddatblygu newidiadau i'r celloedd.

Gan fod eich prawf yn dangos eich bod yn HPV positif, mae'n bwysig ein bod yn eich monitro'n amlach i sicrhau bod yr HPV yn clirio.

27/06/22
Mae fy llythyr yn dweud bod fy nghanlyniad yn HPV positif, gyda newidiadau Gradd Isel i'r celloedd. Beth mae hynny yn ei olygu?

Mae eich prawf wedi dangos rhai mân newidiadau yn eich celloedd y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt mewn clinig Colposgopi. Gall darganfod bod gennych newidiadau i'r celloedd beri pryder. Mae'n bwysig nodi nad yw newidiadau i'r celloedd yn ganser ceg y groth.

Hefyd, nid yw cael newidiadau i'r celloedd yn golygu y byddwch yn datblygu canser ceg y groth gan y bydd y rhan fwyaf o'r newidiadau i'r celloedd yn gwella ar eu pen eu hunain neu gyda thriniaeth.

27/06/22
Mae fy llythyr yn dweud bod fy nghanlyniad yn HPV positif, gyda newidiadau Gradd Isel i'r celloedd. A yw hynny'n golygu bod gennyf ganser ceg y groth?

Na, mae eich prawf wedi dangos rhai mân newidiadau i'r celloedd ond nid yw hyn yn golygu bod gennych ganser ceg y groth. Hefyd, nid yw cael newidiadau i'r celloedd yn golygu y byddwch yn datblygu canser ceg y groth, gan y bydd y rhan fwyaf o'r newidiadau i'r celloedd yn gwella ar eu pen eu hunain neu gyda thriniaeth. 

27/06/22
Rwyf wedi cael fy atgyfeirio i glinig Colposgopi. Beth mae hynny yn ei olygu?

Mae eich prawf wedi dangos rhai mân newidiadau i'r celloedd sy'n annhebygol iawn o fod yn ganser ond sydd angen ymchwilio iddynt mewn clinig colposgopi. Mae colposgopi yn archwiliad i edrych yn fanylach ar eich ceg y groth. Bydd y colposgopydd yn chwilio am unrhyw newidiadau i geg y groth.

27/06/22
Beth fydd yn digwydd i mi yn y clinig Colposgopi?

Byddwch yn cael eich archwilio gan nyrs neu feddyg o'r enw colposgopydd. Maent yn defnyddio colposgop, sy'n edrych fel pâr o ysbienddrych ar stand, i chwilio am newidiadau i'r celloedd. Mae cael colposgopi yn debyg iawn i gael prawf sgrinio serfigol.

Os bydd y colposgopydd yn gweld unrhyw newidiadau i'r celloedd, gall gymryd biopsi (pinsiad bach o groen). Weithiau byddwch yn cael cynnig triniaeth yn ystod eich ymweliad cyntaf.