Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i wedi newid fy rhywedd - a oes angen sgrinio arnaf?

Gallwch gael sgrinio serfigol os ydych rhwng 25 a 64 oed, ac mae gennych geg y groth.

Mae Sgrinio Serfigol Cymru (SSC) dim ond yn gallu gwahodd unigolion sydd wedi cofrestru gyda'u meddyg teulu fel menyw, neu'n amhenodol.

Os ydych wedi cofrestru fel dyn, ond bod gennych geg y groth, gallwch gael sgrinio serfigol o hyd. Bydd angen i chi drefnu hyn gyda'ch practis meddyg teulu a fydd yn gallu cymryd eich prawf a bydd yn anfon eich canlyniadau atoch.

Os ydych wedi cofrestru fel menyw, ond nad oes gennych geg y groth, nid oes angen sgrinio serfigol arnoch. Efallai y byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio – os bydd hynny’n digwydd, gofynnwch i'ch meddyg teulu roi gwybod i SSC nad oes angen sgrinio arnoch.