Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i dros 65 oed - pam nad ydw i'n cael gwahoddiad i gael fy sgrinio?

Yng Nghymru, mae unigolion sy'n gallu cael sgrinio serfigol yn cael eu gwahodd hyd at 64 oed. Mae'r rhaglen sgrinio yn dod i ben bryd hynny oherwydd mae'n annhebygol iawn y bydd unigolion heb HPV (feirws papiloma dynol) ar yr adeg honno yn mynd ymlaen i ddatblygu canser ceg y groth yn ddiweddarach mewn bywyd.

Er bod canser ceg y groth yn digwydd mewn unigolion hŷn, mae’n aml mewn pobl nad ydynt wedi cael unrhyw sgrinio, neu nad ydynt wedi cael digon o brofion sgrinio yn y gorffennol. Hyd yn oes os oedd eich holl brofion yn y gorffennol yn normal, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg teulu am unrhyw waedu anarferol, rhedlif neu symptomau eraill. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwaedu ar ôl cael rhyw, rhwng mislifoedd neu ar ôl y menopos
  • Rhedlif newydd neu wahanol o'r wain (newid o ran lliw, swm neu dewdra)
  • Poenau yn rhan isaf y bol neu'r cefn, neu boen yn ystod rhyw

Os nad ydych erioed wedi bod am brawf sgrinio serfigol, gallwch ofyn yn eich meddygfa am gael prawf, hyd yn oed os ydych dros 65 oed.