Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n fenyw 56 oed sydd wedi bod trwy'r menopos, ac mae sgrinio'n anghyfforddus/poenus, beth alla i ei wneud?

Trafodwch y mater gyda'r sawl sy’n cymryd eich sampl a fydd yn asesu'r rhesymau dros y poen/anesmwythder. Mae’n bosibl mai atroffi ceg y groth sy’n gyfrifol am hyn. Yn dilyn y menopos, mae ceg y groth yn crebachu ac mae’n broses normal. Os mai dyna'r rheswm, ac nid yw'n bosibl cael prawf yn ystod yr ymweliad hwnnw, mae’n bosibl y bydd y sawl sy’n cymryd eich sampl yn argymell cwrs o eli estrogen i’w roi ar y croen i'w gymryd cyn eich apwyntiad nesaf ar gyfer sgrinio serfigol.