Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf o dan 25 oed ac am gael prawf sgrinio. Pam na allaf gael un?

Yng Nghymru, rydych yn cael eich gwahodd am brawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) o 25 oed tan 64 oed. Nid argymhellir sgrinio serfigol i unrhyw o dan 25 oed.

Mae canser ceg y groth yn brin iawn yn y rhai o dan 25 oed, ac ni ddangoswyd bod sgrinio serfigol yn lleihau achosion o ganser yn y grŵp oedran hwn. Bydd y rhan fwyaf o newidiadau celloedd yn y grŵp oedran hwn yn diflannu ar eu pennau eu hunain. Gall sgrinio unigolion o dan 25 oed arwain at driniaeth na fydd ei hangen efallai.

Os ydych o dan 25 oed, byddwch wedi cael cynnig y brechlyn HPV yn yr ysgol. Os cawsoch y brechlyn, yna bydd gennych siawns is o gael HPV. Byddwch yn cael eich gwahodd ar gyfer eich prawf sgrinio serfigol pan angen i chi ei gael yn 25 oed – mae'n dal i fod yn bwysig mynd i gael y prawf hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn, gan nad yw'n amddiffyn rhag pob math o HPV.

Hyd yn oed os na chawsoch y brechlyn HPV, nid oes angen prawf sgrinio serfigol arnoch hyd nes eich bod yn 25 oed. Os ydych yn cael unrhyw symptomau, fel gwaedu afreolaidd, rhedlif neu boen yn ystod rhyw, mae'n bwysig eich bod yn gweld eich meddyg teulu.

Mae eich gwahoddiad ar gyfer sgrinio fel arfer yn cyrraedd ychydig fisoedd cyn eich pen-blwydd yn 25 oed. Gallwch fynd i gael eich sgrinio ar unwaith – nid oes angen i chi aros tan eich pen-blwydd yn 25 oed os ydych wedi cael eich llythyr gwahoddiad.