Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor aml ydw i'n cael fy sgrinio - a allaf gael fy sgrinio'n amlach?

Yng Nghymru, mae pobl rhwng 25 a 64 oed yn cael eu gwahodd ar gyfer sgrinio serfigol bob bum mlynedd.

Mae fel arfer yn cymryd nifer o flynyddoedd i ganser ceg y groth ddatblygu o unrhyw newidiadau celloedd a allai ddigwydd yng ngheg y groth. Gall sgrinio i bum mlynedd ganfod y newidiadau hyn cyn iddynt droi'n ganser.

Yr unig bobl sy'n cael eu sgrinio'n amlach na hyn yw:

  • Pobl â HIV, sy'n cael eu cynghori i gael eu sgrinio bob blwyddyn hyd yn oed os na chanfyddir HPV risg uchel
  • Pobl sydd â HPV risg uchel wedi'i ganfod ar eu prawf sgrinio ond dim newidiadau celloedd
  • Pobl sydd wedi cael eu gweld mewn clinig colposgopi, y gallai fod angen profion amlach arnynt am gyfnod o amser

Os nad oes HPV risg uchel wedi'i ganfod ar eich prawf sgrinio, ni allwch gael eich sgrinio eto yn gynharach na bum mlynedd