Neidio i'r prif gynnwy

Beth os nad wyf am gael sgrinio serfigol?

Eich dewis chi yw cael sgrinio serfigol. Mae gan Sgrinio Serfigol Cymru ddyletswydd i wahodd pob unigolyn cymwys i gael ei sgrinio.

Os na fyddwch yn dod i gael prawf sgrinio o fewn chwe mis i'ch llythyr gwahoddiad, anfonir llythyr atgoffa atoch. Os nad ydych yn dod i gael prawf ar ôl eich llythyr atgoffa, ni fyddwch yn cael llythyr am dair blynedd neu bum mlynedd, yn dibynnu ar eich oedran. Gallwch fynd i gael eich sgrinio ar unrhyw adeg ar ôl i chi gael gwahoddiad.

Efallai y byddwch yn hapus i dderbyn eich llythyrau gwahoddiad a phenderfynu a ydych am ddod ai peidio, bob tro y byddwch yn eu cael.

Mae rhai unigolion nad ydynt am gael y llythyrau gwahoddiad. Os nad ydych am gael unrhyw lythyrau am sgrinio serfigol, gallwch gysylltu â Sgrinio Serfigol Cymru.

Byddwn fel arfer yn anfon ffurflen atoch i'w llenwi, oherwydd bod angen i ni fod yn siŵr eich bod yn deall beth allai ddigwydd os byddwch yn dewis peidio â chael eich sgrinio.

Gall unigolion sy’n gofyn am stopio eu llythyrau gwahoddiad, ond sydd wedyn yn penderfynu yr hoffent gael eu sgrinio, ailymuno â'r rhaglen ar unrhyw adeg hyd nes eu bod yn 64 oed (neu'n hŷn os nad ydynt erioed wedi cael eu sgrinio).

Ni ddylech byth deimlo dan bwysau i gael prawf sgrinio.