Galwyd y prawf sgrinio serfigol yn brawf ceg y groth yn flaenorol.
Cymerir sampl o gelloedd o geg y groth, ym mhen uchaf y wain, gan ddefnyddio brwsh meddal. Mae'r sampl yn cael ei phrofi yn gyntaf am fathau risg uchel o'r feirws papiloma dynol. Mae hyn oherwydd bod y newidiadau yn y celloedd sy'n arwain at bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan HPV risg uchel.
Os na fydd HPV risg uchel yn cael ei ganfod yn y sampl, yna nid oes angen edrych ar y celloedd. Mae hyn yn digwydd mewn bron 9 o bob 10 sampl.
Os bydd HPV risg uchel yn cael ei ganfod yn y sampl, bydd sgriniwr yn edrych ar y celloedd yn y sampl o dan ficrosgop er mwyn chwilio am unrhyw newidiadau.
Os yw'r celloedd yn normal, cynhelir prawf sgrinio arall ar ôl 12 mis i weld a yw'r HPV risg uchel yn dal i fod yn bresennol. Os yw'n dal yno, bydd y celloedd yn cael eu gwirio eto.
Os bydd y celloedd yn dangos unrhyw newidiadau, yna bydd angen rhai ymchwiliadau pellach. (Gweler y Canlyniadau).