Fel arfer ni fydd angen i fabanod sy'n cael ymateb clir ar sgrin clyw babanod newydd-anedig gael profion clyw pellach, ond efallai y bydd Meddyg yn argymell y rhain. Mae prawf clyw yn cael ei gynnig i bob plentyn yng Nghymru yn y flwyddyn maen nhw'n dechrau'r ysgol.
Mae’n bwysig gwirio clyw eich babi wrth iddo dyfu. Mae’r rhestr wirio ar gyfer rhieni yn eich helpu i chwilio am ymatebion eich babi a gwrando arnynt (ychwanegu dolen at y rhestr wirio). Efallai y bydd y rhestr wirio hefyd i’w gweld yn llyfr coch eich babi.
Os oes gennych bryderon am glyw eich babi/plentyn, neu ymatebion gwrando, siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu ar unrhyw adeg a all atgyfeirio’ch babi/plentyn i’ch Adran Awdioleg leol.
Cliciwch yma am ein Rhestr Wirio Clyw ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech siarad â rhywun am glyw eich babi, ffoniwch:
Gogledd Cymru 03000 848710
De-orllewin Cymru 01792 343364
De-ddwyrain Cymru 02921 843568
Neu os byddai’n well gennych, ein cyfeiriad e-bost yw sgrinio-clyw-babanod@wales.nhs.uk