Neidio i'r prif gynnwy

Y Sgrin

Mae un neu ddau o fabanod o bob mil yn cael eu geni â cholli clyw. Mae cael gwybod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad babi, yn enwedig ar gyfer datblygiad lleferydd ac iaith. Mae hefyd yn golygu y gallwn gynnig cymorth a gwybodaeth o'r cychwyn cyntaf.

Mae profion sgrinio’r clyw’n ffordd o ddweud wrthym am y babanod a allai fod â cholled ar eu clyw. Mae’r prawf sgrinio’n dangos pa fabanod sydd angen mwy o brofion er mwyn asesu a oes colled ar eu clyw. Nid yw sgrinio’n adnabod pob math o golled clyw, ac nid yw’n rhwystro anawsterau clywed eraill rhag codi yn y dyfodol.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y prawf sgrinio clyw a gynigir i chi ar gyfer eich babi ar ôl iddo gael ei eni.

 

Darganfod mwy