Gofynnir i oddeutu 4 o bob 100 o fenywod ddod yn ôl i gael rhagor o brofion ar ôl sgrinio. Mae hyn oherwydd bod rhywbeth wedi'i weld ar belydr-x eu bron. Nid oes gan y mwyafrif o bobl sy'n cael eu galw yn ôl am ragor o brofion ganser y fron.
Os cewch eich gwahodd yn ôl am ragor o brofion, anfonir rhagor o wybodaeth atoch am hyn.
Os cewch ddiagnosis o ganser y fron, mae dod o hyd iddo'n gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i chi gael triniaeth lwyddiannus.