Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Sgrinio

Mae prawf sgrinio’r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i’r symptomau ymddangos. Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi’r siawns orau i chi o gael triniaeth lwyddiannus ac o oroesi’r canser.

Mae prawf sgrinio’r fron yn golygu cymryd pelydrau-x o'r fron, a elwir yn famogramau.   Cymerir o leiaf dau belydr-x o bob bron.   

Cynigir profion sgrinio’r fron bob tair blynedd i fenywod, sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg, rhwng 50 oed a hyd at eu pen-blwyddi yn 70 oed.    

Ni chaiff menywod dros 70 oed wahoddiad ar gyfer sgrinio, ond gallwch gysylltu â Bron Brawf Cymru a gofyn am apwyntiad

Efallai y bydd angen i bobl sy’n trawsryweddol neu’n anneuaidd gael sgrinio’r fron.  I ddarganford mwy, ewch i gwybodaeth ar gyfer pobl sy'n trawsryweddol ac anneuaidd.

Ni fyddwn yn sgrinio menywod o dan 50 oed oherwydd i’r rhaglen sgrinio’r fron ddangos i fod o fudd i fenywod dros 50 yn unig.  Os oes gennych symptomau, neu os ydych yn pryderu am hanes eich teulu, dylech siarad gyda’ch meddyg. 

 

Gwybodaeth am Ganser y Fron

Mae canser y fron yn dechrau pan fo celloedd yn y fron yn dechrau tyfu ac yn cronni i ffurfio lwmp.   Gelwir hyn hefyd yn diwmor.    Wrth i'r canser dyfu, gall celloedd ledaenu i rannau eraill o'r corff.   Gall hyn fygwth bywyd.  

Canser y fron yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU ac mae’n effeithio ar un o bob saith menyw rhywbryd yn ystod eu bywydau.   

Mae'r risg o gael canser y fron yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Darganfyddir tua 4 o bob 5 canser mewn menywod dros 50 oed.   

Trwy ddod o hyd i ganser yn gynnar a derbyn triniaethau gwell, mae pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn byw yn hirach.

Darganfod mwy am arwyddion a symptomau.   

Darllenwch ragor o wybodaeth am ganser y fron ar wefan 111 Cymru.   

 

Pam mae profion sgrinio'r fron yn bwysig? 

Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio'r fron pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.   

Mae sgrinio'n bwysig oherwydd: 

  • gall ddod o hyd i ganserau pan fyddant yn rhy fach i'w gweld neu eu teimlo  

  • os bydd canser yn cael ei drin yn gynnar, bydd yn rhoi'r siawns orau i chi oroesi.   

 

Darganfod mwy