Neidio i'r prif gynnwy

Eich apwyntiad

Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?  

Cewch wahoddiad i fynychu sesiwn sgrinio yn un o’r unedau sgrinio symudol neu mewn canolfan sgrinio.  Bydd eich llythyr gwahodd yn nodi ble y cewch eich sgrinio. Bydd lle y cewch eich sgrinio yn dibynnu gyda pa bractis meddyg teulu rydych wedi'ch cofrestru.

 

Newid fy apwyntiad 

Cysylltwch â ni os na allwch fynychu eich apwyntiad. Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.

Mae apwyntiadau sgrinio’r fron yn brin. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad gan y gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.

Os nad oes angen eich apwyntiad arnoch mwyach, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich cefnogi.

Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad sgrinio'r fron, gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad newydd Mae'n bwysig nad ydych yn aros am dair blynedd nes eich bod yn cael eich gwahodd eto.

 

Paratoi ar gyfer fy apwyntiad 

Cyn eich apwyntiad: 

  • Darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch. 
  • Cysylltwch â ni os oes angen cymorth yn ystod eich apwyntiad
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod ymhle mae eich apwyntiad 
  • Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, dylech ganiatáu digon o amser i deithio 
  • Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio 
  • Dylech ganiatáu o leiaf 30 munud ar gyfer eich apwyntiad 

Mae’n syniad da gwisgo trowsus neu sgert a thop, yn hytrach na ffrog, gan y bydd gofyn i chi ddadwisgo o’r wasg i fyny. 

Cyn eich apwyntiad, peidiwch â defnyddio diaroglydd chwistrell neu bowdr talc am y gall hwn ddangos i fyny ar eich  pelydr-X o’r fron.  Gallwch ddefnyddio diaroglydd rholio. 

 

Cyrraedd eich apwyntiad 

Cyrhaeddwch yn brydlon. Ni allwch fynd i’r uned symudol hyd amser eich apwyntiad. 

Oherwydd maint yr uned symudol, gofynnwn i chi ddod i’r apwyntiad ar eich pen eich hun.  Os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn mynychu. 

Ni fyddwn yn gallu gwneud y prawf sgrinio os dewch â phlant gyda chi.  Mae hyn am resymau iechyd a diogelwch. 

Noder: nid oes cyfleusterau toiled ar yr uned symudol. 

 

Am y prawf 

Pan fyddwch yn cyrraedd yr uned sgrinio’r fron, bydd y staff yn gwirio eich manylion ac yn gofyn i chi ynghylch unrhyw broblemau bron rydych wedi’u cael.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch. 

Cyflawnir pelydr-x bronnau gan staff benywaidd a elwir yn Radiograffwyr neu’n Ymarferwyr Cynorthwyol.  Byddant yn esbonio’r hyn fydd yn digwydd.  Gofynnir i chi newid yn yr ystafell pelydr-x neu mewn ciwbicl newid preifat.  Bydd angen i chi dynnu eich bra ac os byddwch mewn ciwbicl newid gwisgwch eich dillad uchaf hyd nes y byddwch yn mynd i’r ystafell pelydr-x.  Efallai bydd yn haws gwisgo sgert neu drowsus yn hytrach na ffrog. 

Pan gewch eich galw ar gyfer eich pelydr-x o’r fron, bydd yr aelod o staff sy’n gwneud y profion yn rhoi eich bron ar y peiriant pelydr-x.  Caiff plât plastig ei ostwng i wasgu’r fron.  Mae hyn y bwysig iawn gan ei fod yn helpu i gadw’ch bron yn llonydd a chael delwedd pelydr-x clir.  Cymerir o leiaf dau belydr-x o bob bron. 

Dim ond ychydig o funudau y bydd y prawf yn ei gymryd.  Mae pawb yn wahanol; gall y prawf fod yn anghysurus neu’n boenus i rai pobl .  Fel rheol mae hyn yn pasio’n gyflym.  Dywedwch wrth yr aelod o staff sy’n gwneud y prawf a fyddwch am roi’r gorau i’r prawf ar unrhyw adeg. 

Os oes gennych fewnblaniadau bronnau neu lenwyr chwistrelladwy, byddwch yn cael taflen wybodaeth i'w darllen, oherwydd gall y rhain wneud sgrinio'n anoddach. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ofyn i aelod o staff sgrinio. 

Os na all yr aelod o staff gwblhau pelydr-x o’ch bron, mae’n bosibl y byddwch yn dal i dderbyn canlyniad ar yr mannau a gymerwyd pelydr-x ohonynt. 

Darganfod mwy