Neidio i'r prif gynnwy

Eich gwahoddiad

Pwy gaiff ei sgrinio?  

Bydd menywod o 50 hyd at eu penblwydd yn 70 oed yn derbyn gwahoddiad yn y post ar gyfer sgrinio’r fron. Ein nod yw gwahodd menywod pob tair blynedd.    

Efallai na fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad cyntaf pan fyddwch yn 50 oed.  Rydym yn gwahodd menywod yn seiliedig ar bryd y bydd practis eu meddyg yn cael ei sgrinio.  Cewch wahoddiad ar gyfer sgrinio cyn eich pen-blwydd yn 53 oed.  

Ni chaiff menywod dros 70 oed wahoddiad ar gyfer sgrinio, ond gallwch gysylltu â Bron Brawf Cymru a gofyn am apwyntiad. 

Efallai y gwahoddir pobl sy’n drawsryweddol neu’n anneuaidd ar gyfer sgrinio’r fron. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau gwybodaeth i bobl sy’n drawsryweddol neu’n anneuaidd.

Ni fyddwn yn sgrinio menywod sydd â symptomau’r fron. Os ydych wedi sylwi ar newid yn eich bron peidiwch ag aros ar gyfer eich apwyntiad sgrinio’r fron. Mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch meddyg.  

Ni fyddwn yn sgrinio menywod o dan 50 oed oherwydd i’r rhaglen sgrinio’r fron ddangos i fod o fudd i fenywod dros 50 yn unig.  Os oes gennych symptomau, neu os ydych yn pryderu am hanes eich teulu, dylech siarad gyda’ch meddyg. 

 

Sut y caf wahoddiad?  

Mae Bron Brawf Cymru yn cael eich manylion cyswllt oddi wrth eich meddyg. Mae’n bwysig fod gan eich meddyg eich enw a’ch cyfeiriad cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch. 

Os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg, siaradwch gyda ni i weld a allwch gael sgrinio’r fron.  

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os ydych chi: 

  • Yn symud, oherwydd bydd angen i chi lenwi ffurflen newid cyfeiriad 

  • Wedi cael llawdriniaeth adluniol, mewnblaniadau bronnau neu lenwyr chwistrelladwy, oherwydd mae’n bosibl y bydd yn anoddach eich sgrinio. 

Efallai gwahoddir rhai pobl i gael eu sgrinio nad oes ei angen arnynt.  Efallai na fyddwn yn ymwybodol eich bod yn cael eich trin am ganser y fron, neu os ydych yn derbyn triniaeth ddilynol mewn clinig bron mewn ysbyty. 

Efallai y byddwn yn anfon gwahoddiad at rai pobl sydd wedi cael tynnu’r ddwy fron (mastectomi dwyochrog). 

Cysylltwch â ni os oes angen gwahoddiad ar gyfer sgrinio’r fron arnoch, neu os credwch na ddylech fod wedi cael gwahoddiad.

 

Eich dewis chi yw Sgrinio’r Fron

Eich dewis chi yw manteisio ar y gwasanaeth sgrinio’r fron neu beidio. Nid yw sgrinio yn eich atal rhag cael canser y fron, ond dyma’r ffordd orau o atal canserau yn gynnar.

Efallai y byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau cael eich sgrinio y tro hwn, ond y byddwch yn fodlon cael gwahoddiad eto ymhen tair blynedd. Rhowch wybod i ni.

Os penderfynwch nad ydych eisiau gwahoddiadau i gael eich sgrinio yn y dyfodol, bydd modd i chi ddewis peidio â’u derbyn.  Cysylltwch â’ch canolfan sgrinio’r fron agosaf i ddysgu sut bydd modd gwneud hyn. 

 

Beth os oes angen cymorth ychwanegol arnaf?   

Deall yr wybodaeth 

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, efallai y byddwch am ymweld â’n tudalennau Hawdd ei Ddeall, BSL, Sain a Fideo.  
 

Mynd am fy apwyntiad  

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad os:  

  • Oes angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf. 
  • Oes gennych anabledd, fel y gallwn sicrhau ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi 
  • Ydych yn defnyddio ci cymorth 
  • Oes angen i ofalwr ddod gyda chi 
  • Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau 
  • Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod ag ID a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w hapwyntiad 

Os oes angen i chi ddod â rhywun gyda chi i'ch apwyntiad, rhowch wybod i ni. Efallai y byddai'n well ichi gael eich apwyntiad mewn canolfan sgrinio'r fron. 
 

Teithio i fy apwyntiad 

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am help i deithio i’ch apwyntiad. Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Gallen nhw fod o gymorth i chi.

 

Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd

Gan fod costau byw uwch yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.

Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio arferol yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am brofion pellach yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG yn rhoi canllawiau clir i bobl ynghylch pryd y gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. I'r rhai sy'n gymwys, mae'r cynllun yn cefnogi'r gost o deithio i'r ysbyty neu eiddo arall y GIG ar gyfer triniaeth a ariennir gan y GIG neu brofion diagnostig.

I weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIGam ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Ewch i’n tudalennau gwe costau byw i gael rhagor o wybodaeth  icc.gig.cymry/costau-byw

Darganfod mwy