Neidio i'r prif gynnwy

Rhesymau dros fynd i sgrinio'r fron

Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio ai peidio. Mae'n bwysig eich bod chi'n deall manteision a risgiau sgrinio i'ch helpu chi i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.   

Mae sgrinio yn arbed bywydau. 

Gall sgrinio ddod o hyd i ganser y fron yn gynnar cyn y bydd modd i chi weld neu deimlo newid yn eich bron.  

Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i chi oroesi. 

Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar fel arfer yn golygu na fydd angen cymaint o driniaeth arnoch. 

Mae’n bosibl y byddwch chi'n teimlo'n iawn hyd yn oed os bydd gennych ganser y fron cynnar. 

Nid yw sgrinio’r fron yn dod o hyd i bob math o ganser y fron.  

Mae’n bosibl y bydd sgrinio yn dod o hyd i ganser na fyddai’n achosi niwed i chi.   Bydd yn rhaid i chi benderfynu a ydych chi am gael driniaeth. 

Mae siawns fach iawn y gall cael pelydr-x o’ch bronnau achosi canser.  

Gall sgrinio ar y fron beri embaras, gwneud i chi deimlo ychydig yn anghyfforddus ac efallai gwneud i chi boeni. 

Na fydd. Dim ond os yw eisoes yno y gall sgrinio ddod o hyd i ganser.  

Gallwch chi gael canser y fron ar unrhyw adeg.   Mae'n bwysig siarad â'ch meddyg os byddwch chi'n gweld newid yn eich bron, hyd yn oed os byddwch chi wedi cael prawf sgrinio'r fron yn ddiweddar. 

Gofynnir i oddeutu 4 o bob 100 o fenywod ddod yn ôl i gael rhagor o brofion ar ôl sgrinio.  Mae hyn oherwydd bod rhywbeth wedi'i weld ar belydr-x eu bron.   Nid oes gan y mwyafrif o bobl sy'n cael eu galw yn ôl am ragor o brofion ganser y fron.   

Os cewch eich gwahodd yn ôl am ragor o brofion, anfonir rhagor o wybodaeth atoch am hyn.    

Os cewch ddiagnosis o ganser y fron, mae dod o hyd iddo'n gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i chi gael triniaeth lwyddiannus.   

Cymryd pelydrau-x o’r bronnau yw'r ffordd orau o ddod o hyd i ganser y fron yn gynnar.   

Fodd bynnag, mae'n anodd iawn gweld rhai canserau ar belydrau-x y fron.   Nid yw'r person sy'n darllen y pelydrau-x bob amser yn eu gweld nhw.   Ni ellir gweld rhai canserau o gwbl.  

Mae o leiaf dau arbenigwr yn edrych ar bob un o belydrau-x y bronnau.  

Beth bynnag fo'ch oedran, os ydych chi'n poeni am newid yn y fron, siaradwch â'ch meddyg, hyd yn oed os ydych chi wedi cael prawf sgrinio’r fron. 

Mae nifer fach o bobl mewn mwy o berygl o gael canser y fron oherwydd ei fod yn rhedeg yn eu teuluoedd.   

Nid yw'r mwyafrif o ganserau'r fron yn rhedeg yn y teulu ac nid ydynt yn cynyddu'r risg y bydd aelodau eraill o'r teulu yn cael canser y fron.   

Mae Bron Brawf Cymru yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Geneteg i gynnig profion sgrinio'r fron i fenywod sydd â risg uwch o ddatblygu canser y fron.   

Os ydych chi'n poeni bod canser y fron yn rhedeg yn eich teulu chi, siaradwch â'ch meddyg neu dilynwch y ddolen isod i wefan y Gwasanaeth Geneteg.       

Os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron, rydym yn awgrymu eich bod yn siarad â ni cyn i chi gael sgrinio'r fron. 

Darganfod mwy