Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb cydweithredol COVID: tîm arennol ac elusennau cleifion, yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y gymuned arennau (BIPBA)

Mae pobl â chlefyd yr arennau yn hynod dueddol o gael COVID-19. Cyn brechu, mae data cofrestrfa arennol y DU yn dangos bod 1 o bob 5 claf ar ddialysis a ddaliodd COVID-19 yn ystod y don gyntaf wedi marw o fewn 14 diwrnod. I hybu diogelwch ac ymwybyddiaeth, cychwynnwyd prosiect gan y Tîm Arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl â chlefyd yr arennau drwy gydol y pandemig COVID. Mewn cydweithrediad ag elusennau arennau, Popham Kidney Support, Kidney Care UK a Kidney Wales, cynhaliodd y tîm Arennol ymgyrch ymwybyddiaeth COVID-19. Rhoddodd wybod i bobl sut y byddai gofal arennau hanfodol yn cael ei ddarparu trwy gydol y pandemig, a phwysleisiodd yr angen i gael mynediad at frechu a thriniaethau COVID.

Cynhyrchwyd gwefan bwrpasol, gweminarau a deunydd addysg digidol i hysbysu cleifion. Ategwyd hyn gan ffôn uniongyrchol i fferyllwyr arennol i arwain penderfyniadau ynghylch brechlynnau a thriniaeth. Ar gyfer y bobl hynny ar haemodialysis sy'n mynd i ysbyty deirgwaith yr wythnos, sefydlwyd rhaglen frechu bwrpasol mewn unedau dialysis ar draws De-orllewin Cymru.

Mynychodd dros 200 o gleifion y gyfres fyw o weminarau, a chyflwynwyd dros 60 o gwestiynau ar gyfer cwestiwn ac ateb i'r panel o arbenigwyr. Roedd y gweminar a recordiwyd yn galluogi mwy o gleifion i gael mynediad at y wybodaeth ar adeg o'u dewis neu i rannu gyda theulu a ffrindiau.

O fewn wythnos i’r brechlyn COVID-19 fod ar gael, cafodd pob claf ar haemodialysis uned yn Ne Orllewin Cymru eu brechlyn cyntaf. Roedd dros 99% o gleifion wedi cydsynio ac wedi derbyn y brechlyn. Nid oedd yn rhaid i unrhyw un fynychu canolfan frechu torfol. Profodd y llwyddiant hwn, er gwaethaf natur wledig y gwasanaeth rhanbarthol, ei fod yn bosibl i unedau arennol ledled y DU ddilyn rhaglen frechu bwrpasol ar raddfa a chyflymder.


Lee White

lee.white@wales.nhs.uk