Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Mynd i'r Afael â Thlodi Gwelyau yng Nghymru

Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod dros 200,000, neu 1 o bob 3, o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Cefnogir hyn gan ymchwil gan yr elusen plant Buttle sy'n dangos sut yr oedd bron i 30% o deuluoedd ar incwm isel yn cael trafferth fforddio gwelyau i'w plant yn 2020. Mae'r adroddiad yn disgrifio sut mae teuluoedd a phlant yn cysgu ar hen fatresi neu glustogau ar y llawr oherwydd na all rhieni fforddio ffrâm. Mae diffyg cwsg, oherwydd diffyg gwely, yn arwain at lefelau canolbwyntio gwael a chyrhaeddiad addysgol is.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB) yn datgomisiynu Ysbyty Maes y Bae ac roedd ganddo nifer fawr o welyau (600) a oedd yn anaddas ar gyfer y sector acíwt. Fodd bynnag, roeddent yn ddigon cadarn i'w defnyddio mewn lleoliadau domestig, a byddent yn ddelfrydol i'w rhoi i deuluoedd a'r bobl hynny sydd â'r angen mwyaf yn y gymuned. Paratowyd papur, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwr Cyllid a Phennaeth Caffael BIPBC, a gofynnwyd am gymeradwyaeth gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd gweithgor bach, a oedd yn cynnwys Cynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a Gwasanaethau Gwirfoddol Cymunedol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd y timau a'r sefydliadau a oedd yn eu cefnogi yn y sefyllfa orau i nodi'r teuluoedd hynny roedd â'r angen mwyaf am welyau.

Yn ogystal â dosbarthu gwelyau, lansiwyd ymgyrch fewnrwyd yn annog staff BIPBC i roi dillad gwely newydd ac ail-law a allai fynd gyda’r gwelyau. Roedd archfarchnadoedd a chwmnïau lleol hefyd yn gefnogol iawn ac wedi cyfrannu llawer o ddillad gwely newydd. Clywodd y cwmni symud lleol Britannia Robbins am y prosiect gan gynnig eu gwasanaethau i ddosbarthu'r gwelyau yn rhad ac am ddim.

Yn dilyn nifer y ceisiadau am welyau a dderbyniwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo bod y fenter hon yn cael ei chyflwyno fesul cam dros Gymru gyfan, ac y dylid defnyddio'r holl welyau dros ben o'r ysbytai maes yn y modd hwn.


Amanda Davies

amanda.davies12@wales.nhs.uk