Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD☆ - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Cyflwyno Tîm Amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol, Sir Gaerfyrddin

Cyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal 

Mae defnyddio adnoddau gofal canolraddol cyfyngedig, gwerthfawr yn ddarbodus yn hollbwysig i'r dyhead o ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio. Mae tystiolaeth yn cadarnhau bod rhyddhau cleifion cyn gynted ag y cânt eu hoptimeiddio'n feddygol yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddadgyflyriad cleifion.

Sefydlwyd Cynllun Gwella Llif System gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHD) ym mis Awst 2021 gyda ffocws sylweddol ar weithredu methodoleg SAFER yn ysbytai acíwt Is-adran Sir Gaerfyrddin o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cytunwyd y byddai cynllun peilot cychwynnol yn cael ei gynnal, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gynllunio rhyddhau o'r diwrnod derbyn a gweithredu llwybrau rhyddhau i wella ac asesu. Datblygwyd ffocws penodol o amgylch ‘Cartref yn Gyntaf’, a datblygwyd dull tîm amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol (MDT IC) i roi egwyddorion cartref yn gyntaf ar waith ac i gyflawni’r weledigaeth – caiff pob claf ei ryddhau o’r ysbyty cyn gynted ag y mae wedi’i optimeiddio’n feddygol, am gyfnod o adsefydlu ac asesu.

Mae’r tîm amlddisgyblaethol yn alinio’r 4 piler gofal canolraddol yn llwyddiannus i un pwynt mynediad sy’n cyfuno gwybodaeth ac adnoddau asiantaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac asiantaethau trydydd sector. Mae'r egwyddor 'Cartref yn Gyntaf' wedi'i gwreiddio'n gryf, gan frysbennu oddi wrth wasanaethau statudol a chefnogi unigolion yn gymesur i gael cyfnod o adferiad ac asesiad mor agos i'w cartrefi â phosibl.

Yn ystod y 12 wythnos gyntaf o wasanaeth, derbyniodd y tîm amlddisgyblaethol 262 o atgyfeiriadau, yr ystyriwyd bod 179 ohonynt yn briodol ac felly cawsant eu rhyddhau o safleoedd ysbytai acíwt drwy'r tîm. Nod y tîm yw darparu ymateb o fewn 48 awr i dderbyn atgyfeiriad. Mae hyn wedi parhau i fod 100% yn gyraeddadwy ers dechrau'r peilot. Ymhellach, gweithredir ar y mwyafrif helaeth o atgyfeiriadau o fewn 24 awr.

Mae'r tîm yng nghamau cynllunio cam 2 y prosiect hwn sy'n canolbwyntio ar gynnwys Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol.


Leah Williams

leah.williams4@wales.nhs.uk