Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Diwallu anghenion pobl sy'n byw gyda methiant y galon trwy adsefydlu cardiaidd a chanolfan gymunedol methiant y galon

Mae corff cryf o dystiolaeth yn dangos bod adsefydlu cardiaidd ar gyfer cleifion methiant y galon yn gwella ansawdd bywyd. Fodd bynnag, o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cafodd llai na 4% o gleifion â methiant y galon fynediad i adsefydlu cardiaidd.

Dechreuwyd prosiect i ddatblygu gwasanaeth adsefydlu a oedd yn ymatebol i anghenion cleifion ac yn darparu optimeiddiad prydlon o feddyginiaeth yn y gymuned, gyda'r bwriad y byddai hyn hefyd yn rhyddhau capasiti timau arbenigol i ymateb i anghenion  mwy cymhleth cleifion. Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid, yn cynnwys clinigwr gofal sylfaenol, cardiolegydd, rheolwyr, staff methiant y galon, staff adsefydlu cardiaidd, tîm gofal iechyd seiliedig ar werth a rheolwr YMCA.

Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu, adnabuwyd aelodau allweddol o staff i frysbennu cleifion a gyfeiriwyd at y gwasanaeth yn dibynnu ar anghenion clinigol a chleifion, mynychodd nyrs arbenigol Methiant y Galon ddosbarthiadau adsefydlu a darparu gwasanaeth galw heibio i gleifion fel bo angen, a datblygwyd dogfennaeth ddiwygiedig i gefnogi cleifion i gymryd cyfrifoldeb am hunanreoli symptomau.

Mae cleifion sy’n mynychu adsefydlu i gyd wedi gweld gwelliant mewn gallu ymarfer corff, beth bynnag fo’u man cychwyn, ac mae pob un wedi gweld gwelliant yn ansawdd eu bywyd, gan nodi gostyngiad mewn sgorau pryder ac iselder. Mae morâl y staff wedi gwella drwy allu darparu gofal cleifion effeithiol mewn modd amserol. Cyflawnwyd optimeiddio meddyginiaeth mewn 15 wythnos ar gyfartaledd gan Ganolfan Gymunedol Methiant y Galon ac adsefydlu cardiaidd, o gymharu â 28 wythnos mewn gofal eilaidd arferol.

Sicrhawyd cyllid i barhau â'r gwasanaeth ym mwrdeistref Caerffili, gydag achos busnes wedi'i gyflwyno i'w ailadrodd mewn bwrdeistrefi eraill. Bydd pob tîm adsefydlu yn parhau i weithio'n agos ag arbenigwr methiant y galon i roi'r gwasanaeth hwn ar waith yn eu cymunedau.


Linda Edmunds

linda.edmunds2@wales.nhs.uk