Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r Rhaglen Cymru Iach ar Waith

Rydym yn newid ffocws rhaglen Cymru Iach ar Waith i greu cynnig digidol gwell i gyflogwyr a rhoi cymorth uniongyrchol mwy cyffredinol gan ein tîm o Gynghorwyr arbenigol.

Bydd hyn yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar adnoddau dysgu a datblygu i helpu cyflogwyr i feithrin eu sgiliau a’u capasiti mewn perthynas ag iechyd a llesiant, yn ogystal â pharhau i ailwampio’r wefan ac ychwanegu ati. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau ac adnoddau ar bob agwedd ar amgylcheddau gwaith iach, ymddygiad i sicrhau ffyrdd iach o fyw a chefnogi gweithwyr sydd â chyflyrau iechyd.

Byddwn yn cyflwyno ein holiadur ar-lein, a ddatblygwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, ac yn creu adroddiadau unigol digidol ar gyfer cyflogwyr. Bydd yr adroddiadau hyn yn dangos beth yw eu hanghenion iechyd a llesiant ac yn rhoi arweiniad i’w helpu i gymryd camau gweithredu ochr yn ochr ag adnoddau hawdd eu defnyddio megis rhestrau gwirio a thaflenni gwaith. Byddwn hefyd yn datblygu canllawiau i gyflogwyr i'w helpu i fesur a gwerthuso’r cynnydd a wneir wrth geisio cyflawni eu nodau iechyd a llesiant.

Bydd partneriaeth newydd gyda Busnes Cymru yn cyfuno ein harbenigedd ni ar iechyd a llesiant â’u sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol nhw am ddarparu e-gynnyrch proffesiynol i fusnesau. Bydd hyn yn rhoi mynediad i’r rhai y maent yn eu cyrraedd yn ddigidol er mwyn gallu rhannu ein hadnoddau gyda mwy fyth o gyflogwyr ledled Cymru.

Mae’r newidiadau wedi deillio o’r ffaith bod ein blaenoriaethau a’n gweithgareddau y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru wedi cael eu diwygio. Gweler ddatganiad y Gweinidog yma. Fel rhan o'r newidiadau, ni fyddwn bellach yn gallu cyflwyno gwobrau Cymru Iach ar Waith ac felly mae'r rhain bellach yn dod i ben ar ôl nifer o flynyddoedd llwyddiannus.

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn newyddion siomedig i’r rhai sydd wedi cael eu gwobrwyo ac sydd wedi dangos ymrwymiad mawr i iechyd a llesiant eu staff dros nifer o flynyddoedd. Rydym yn gobeithio y bydd ein harlwy a’n hadnoddau e-ddysgu newydd arfaethedig yn galluogi cyflogwyr i barhau i adeiladu ar eu gwaith caled hyd yma, ac yn ein galluogi ninnau i gyrraedd mwy o gyflogwyr ledled Cymru gyda chanllawiau ac adnoddau gwerthfawr.

Mae rhagor o wybodaeth i’r rhai sydd wedi cael eu gwobrwyo ar gael yma.

Mae tîm Cymru Iach ar Waith yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio ein gwybodaeth a'n sgiliau iechyd a llesiant i helpu cyflogwyr i ddatblygu a chynnal amgylchedd, polisïau a diwylliant sy'n hyrwyddo iechyd da.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer ein bwletin i gael y newyddion diweddaraf gennym wrth i adnoddau newydd gael eu lansio.

Cwestiynau Cyffredin – Newidiadau i’r Rhaglen Cymru Iach ar Waith (HWW)