Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb Cwmni Gorau i Covid-19 – Allanol (cefnogi'r gymuned neu gwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaeth)

Mae'r categori hwn yn cydnabod y cyflogwyr hynny a ddangosodd lefel uchel o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol drwy gamu i fyny i roi cymorth i eraill y tu allan i'w sefydliad yn ystod pandemig Covid-19.

Fe wnaeth ansicrwydd a phryder effeithio ar les ac iechyd meddwl ledled y byd ac roedd llawer o gymunedau a grwpiau yn y boblogaeth yr oedd angen cymorth arnynt a wnaeth ddenu ymatebion gwych gan gyflogwyr lleol. Dyma'r cyflogwyr yr ydym am eu dathlu. Gallai hyn fod yn gyflogwyr sydd wedi:

  • Cefnogi eu helusennau enwebedig.
  • Gofalu am eu cadwyn gyflenwi a'u cwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Gwneud eu cynnyrch/gwasanaethau yn fwy hygyrch i'r rhai a oedd eu hangen.
  • Creu cynhyrchion/gwasanaethau neu fentrau newydd a helpodd eu cwsmeriaid, y cyhoedd neu rai is-grwpiau yr effeithiwyd arnynt, megis darparu prydau bwyd i ysbytai neu roddion i fanciau bwyd, neu gynnig cwnsela rhad ac am ddim.

 

Yn Y Rownd Derfynol