Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Canmoliaeth Covid-19

 

Mae cofnodi ar gyfer ein Canmoliaeth Covid-19 bellach wedi cau. Fodd bynnag, mae’n dal yn bosibl cofrestru ar gyfer y digwyddiad, dilynwch y ddolen isod i gofrestru! Bydd enillwyr yn cael eu hysbysu yn y digwyddiad ar 8 Rhagfyr – pob lwc!

I gael gwybod mwy am y digwyddiad canmoliaeth, gan gynnwys sut i gofrestru, cyflwyno cais a mynediad at amrywiaeth o adnoddau, ewch i wefan Digwyddiad Canmoliaeth Cymru Iach ar Waith

Gall unrhyw gyflogwr sy'n gweithredu yng Nghymru, ynghyd â’i staff, fynychu'r rhith ddigwyddiad, a gynhelir o 10am hyd 11.30am ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr i ddathlu llwyddiannau sefydliadau yng Nghymru, dysgu o arferion arloesol eraill a dulliau unigryw i ddelio â’r heriau a achoswyd gan Covid-19 ac i rwydweithio gyda chwmnïau eraill o bob rhan o Gymru.

Os fethoch chi’r seremoni, gallwch ei gwylio yma:

Cymru Iach ar Waith; Digwyddiad Cymeradwyaeth Covid-19 | Freshwater (eventscase.com)

 

 

Crynodeb o Themâu Allweddol o Gofnodion Cyflogwyr

Ym mis Rhagfyr 2021, cyflwynodd Cymru Iach ar Waith Ddigwyddiad Cymeradwyaeth Covid-19 rhithwir i gydnabod ymdrechion cyflogwyr i gefnogi iechyd a llesiant eu staff, eu cleientiaid a’r gymuned ehangach yn ystod y pandemig. Roedd y digwyddiad yn arddangos amrywiaeth o’r hyn a gyflawnodd cyflogwyr wrth addasu ac ymateb i’r heriau mewn cyfnod cythryblus. Roedd llawer o enghreifftiau hefyd o arfer gorau mewn perthynas â mentrau iechyd a llesiant. Derbyniwyd cyfanswm o 55 o gyflwyniadau gan gyflogwyr o amrywiaeth eang o sectorau ac o feintiau amrywiol. Roedd 6 categori o wobrau yn ymwneud ag iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol, yr ymateb mewnol ac allanol gorau i'r pandemig, yn ogystal â chynaliadwyedd a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae manylion llawn y categorïau i’w gweld yn y ddogfen (isod) ynghyd â chrynodeb o’r enillwyr a’r rhai ddaeth yn ail.