Neidio i'r prif gynnwy

Menter lechyd Meddwl Orau: Cwmni Fawr

Mae'r ganmoliaeth hon yn cydnabod gweithleoedd gyda 250 a mwy o weithwyr sydd wedi gweithredu strategaeth eithriadol i gryfhau iechyd meddwl yn y gweithle yn ystod pandemig Covid-19. Gallai'r ceisiadau amlygu:

  • Sut mae strategaethau'n cael eu rhoi ar waith o'r brig i'r gwaelod ar bob lefel gweithiwr.
  • Mynd i'r afael yn llwyddiannus â stigma sy'n ymwneud â materion iechyd meddwl gyda chefnogaeth weithredol ac arwain at newid diwylliannol ar draws y cwmni.
  • Cyflawni unrhyw ymgyrchoedd neu fentrau iechyd meddwl sydd wedi'u rhoi ar waith ar gyfer naill ai (a) grŵp penodol o weithwyr; neu (b) datrys her benodol yn y gweithle, er enghraifft mynd i'r afael â gweithio gartref, ffyrlo, dynion ac iechyd meddwl, caethiwed yn y gwaith, menopos yn y gweithle, straen yn y gweithle.
  • Sut mae ystyriaethau ynghylch iechyd meddwl yn cael eu hadlewyrchu mewn dull strategol a pholisïau a systemau ehangach sy'n cyd-fynd ag anghenion pob gweithiwr, er enghraifft, cydnabod na ellir cymryd iechyd meddwl da yn ganiataol ac felly cynnig addasiadau rhesymol a gweithio hyblyg.

Dylai ymgeiswyr ddangos dull cynhwysol, ataliol a chefnogol o ymdrin ag iechyd meddwl a chyflawni gwelliannau a llwyddiant mesuradwy.

 

 

Yn Y Rownd Derfynol