Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb Covid-19 Gorau gan Gwmni - Mewnol (cefnogi gweithwyr) – Busnesau Bach a Chanolig

Mae'r ganmoliaeth hon wedi'i chynllunio i gydnabod y gwaith mae cyflogwyr wedi'i wneud i ofalu am eu gweithwyr o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Bydd yn cydnabod y cyflogwyr hynny sydd wedi bod yn arloesol wrth fynd y tu hwnt i gefnogi eu gweithwyr drwy bandemig Covid-19, er enghraifft:

  • Gwneud i weithwyr deimlo'n ddiogel yn y gweithle.
  • Cefnogi gweithwyr gartref.
  • Penodi llysgenhadon, hyrwyddwyr neu eiriolwyr sy'n ymrwymo i gefnogi cydweithwyr yn ogystal â'u gwaith dydd.

Mae'r cyflogwr hwn yn cydnabod pwysigrwydd rhannu negeseuon cadarnhaol a chynyddol a dathlu ymdrechion staff. Gallai hyn gynnwys meysydd fel:

  • Mynd i'r afael â'r heriau i iechyd meddwl a achoswyd gan Covid-19.
  • Pwysigrwydd peidio â chymryd iechyd a lles da yn ganiataol a/neu'r angen i gael sgyrsiau cadarnhaol am amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar iechyd a lles yn y gweithle.

Dylai ceisiadau buddugol ddangos sut mae staff yn y gweithle wedi cael cymorth ac, os oedd staff ar ffyrlo, sut y cawsant eu cefnogi'n benodol. Bydd beirniaid hefyd yn chwilio am sut yr oedd cyflogwyr yn cadw lles ac iechyd meddwl gweithwyr ar flaen eu hymdrechion, yn llwyddo i gadw ysbryd yn uchel a'u cefnogi'n llwyddiannus drwy gydol 2020 a thu hwnt.

 

Yn Y Rownd Derfynol