Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth Weledigaethol ar gyfer Cynaliadwyedd

Mae'r her sylweddol a gyflwynwyd gan Covid-19 wedi gofyn am drawsnewid y ffordd mae cyflogwyr yn gweithredu gyda'u defnyddwyr gwasanaeth, eu cwsmeriaid a'u staff. Roedd y cyfuniad o staff oedd yn gweithio o amgylch y cloc i gynyddu capasiti, optimeiddio gweithdrefnau rheoli heintiau a datblygu arferion gwaith newydd wrth i heintiau godi, a negeseuon iechyd cyhoeddus clir ac ystyriol, yn atal y GIG rhag cael ei llethu a galluogi llawer o gyflogwyr i barhau i weithredu. Diolch i'r ymdrechion hyn, sefydlwyd 'normal newydd'. Ond sut fydd y mentrau hynny a'r newidiadau i broses, a ddatblygwyd drwy anghenraid yn ystod yr argyfwng, yn llwyddo yn y dyfodol?

Mae'r ganmoliaeth hon yn dathlu'r datblygiadau arloesol, y mentrau a'r ail-ddylunio a ddatblygwyd yn ystod argyfwng Covid sy'n dod yn bethau i aros ar gyfer y tymor canol i'r tymor hir. Gallai'r ceisiadau ddangos:

  • Sut mae canlyniadau iechyd wedi'u gwella drwy ddatblygu system, technoleg neu raglen/arloesedd newydd.
  • Sut mae canlyniadau iechyd staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth wedi'u gwella drwy ymestyn a/neu wella ansawdd arferion gwaith iach, er enghraifft, dulliau newydd o gyfathrebu ac ymgysylltu â staff a/neu ddefnyddwyr gwasanaethau.
  • Datblygu atebion sy'n mynd i'r afael â rhwystrau i wella canlyniadau iechyd o ganlyniad i hygyrchedd gofal iechyd, cyfyngiadau ar adnoddau dynol, argaeledd gwybodaeth, a diffyg seilwaith.

Mae ein beirniaid am glywed sut rydych chi’n gwneud i'ch datblygiadau arloesol aros a pharhau i ysgogi dulliau cynaliadwy ar gyfer staff a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n cael effaith gadarnhaol ar iechyd.

 

Yn Y Rownd Derfynol