Neidio i'r prif gynnwy

Menter Lles Corfforol Gorau

Mae'r ganmoliaeth hon yn cydnabod gweithleoedd gyda 250 a mwy o weithwyr sydd wedi gweithredu strategaeth eithriadol i gryfhau lles corfforol yn y gweithle yn ystod pandemig Covid-19. Gallai'r ceisiadau ddisgrifio:

  • Sut mae menter lles corfforol effeithiol wedi'i rhoi ar waith a'i mabwysiadu o'r brig i'r gwaelod ar bob lefel gweithiwr.
  • Sut mae gweithwyr wedi cael eu hysgogi a'u hannog i fod yn fwy egnïol yn gorfforol gan arwain at effaith gadarnhaol ar les corfforol y staff.
  • Sut mae arferion nad ydynt yn ffafriol i les corfforol cadarnhaol wedi cael eu herio'n llwyddiannus a'r arferion hynny sydd yn ffafriol wedi cael eu hyrwyddo, gyda chefnogaeth weithredol ac sy'n arwain at newid diwylliannol ar draws y cwmni.
  • Sut mae ystyriaethau ynghylch lles corfforol yn cael eu hadlewyrchu mewn dull strategol a pholisïau a systemau ehangach sy'n cyd-fynd ag anghenion pob gweithiwr, er enghraifft, cydnabod na ellir cymryd lles corfforol da yn ganiataol ac felly cynnig addasiadau rhesymol a gweithio hyblyg.

Dylai ymgeiswyr ddangos dull cynhwysol, ataliol a chefnogol o hyrwyddo lles corfforol a chyflawni gwelliannau a llwyddiant mesuradwy.

 

Yn Y Rownd Derfynol