Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu mynediad cyflym at therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gwasanaethau therapi seicolegol, y cwbl wedi’i deilwra i’r unigolyn. Cynlluniwyd y rhain i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i'r gwaith neu i reoli cyflwr iechyd yn y gwaith o ganlyniad i un ai:

  • Problem iechyd meddwl; neu
  • Problem gyhyrysgerbydol.

Gall pobl gysylltu â'r gwasanaeth a siarad yn uniongyrchol â chynghorydd arbenigol. Gall meddyg teulu neu gyflogwr (neu unrhyw barti arall â diddordeb) hefyd gyfeirio gweithiwr tuag at y gwasanaeth.

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant di-dâl yn uniongyrchol i fusnesau yn y sector preifat a'r trydydd sector, nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol yn aml.

Mae rhaglen hyfforddi ar gael i helpu cyflogwyr i nodi anghenion lles eu gweithlu, ac i’w helpu i fanteisio ar raglen bwrpasol o fesurau a gynlluniwyd i wella lles yn y gwaith, gan gynnwys gweithdai hyfforddi a thriniaethau lles.