Nid yw amddiffyn iechyd meddwl eich gweithiwr erioed wedi bod yn bwysicach. Mae gan bawb adegau yn eu bywydau sy'n annifyr ac yn llawn straen ac sy’n profi ein gallu i ymdopi. Mae ein hiechyd meddwl yn gyfnewidiol ac yn gallu newid ac amrywio yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas.
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob rhan o fywyd bob dydd, ac mae wedi cael effeithiau hirhoedlog ar y ffordd rydyn ni'n byw, gweithio a chymdeithasu.
Mae cyflyrau iechyd meddwl ar gynnydd ac mae rhai grwpiau yn ein cymdeithas yn profi iechyd meddwl gwaeth nag eraill. Mae'r gost ariannol i gyflogwyr yn sylweddol. Yn 2020, cyn y pandemig, amcangyfrifodd Deloitte bod costau ariannol iechyd meddwl gwael yn y gweithle i gyflogwyr y DU rhwng £43-£45 biliwn y flwyddyn.
Pe baech yn gallu rhannu’r gost gyfartalog rhwng pob gweithiwr Cymreig, nid y rhai sy'n sâl yn unig, mae Deloitte yn amcangyfrif y byddai’r gost hon yn £1,557 fesul gweithiwr. Os ydych chi'n ystyried mudiad bach yng Nghymru sy’n cyflogi 50 o bobl, gallai hyn fod gyfystyr â chostau o bron i £78,000 y flwyddyn oherwydd iechyd meddwl gwael ymhlith gweithwyr.
Mae tystiolaeth yn dangos bod ymyriadau yn y gweithle i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn meddu ar y potensial o ran buddion sylweddol i gyflogwyr, gweithwyr a'r economi ehangach. Yn ogystal â'r buddion y bydd gweithwyr yn eu profi, mae buddsoddi mewn iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle yn darparu ystod o buddion i'r sefydliad y gellir ei gyfrifo fel elw cyfartalog ar fuddsoddiad. Felly, am bob £1 a wariwyd ar gefnogi iechyd meddwl gweithwyr, bydd cyflogwyr yn cael £5 ar gyfartaledd yn ôl mewn llai o absenoldeb a throsiant staff.
Rydym yn gwybod mai problemau iechyd meddwl yw un o'r prif resymau dros absenoldeb salwch, a bod mwy a mwy o gyflogwyr yn poeni am iechyd meddwl a llesiant gweithwyr a hoffen nhw wneud mwy amdano.
Y newyddion da yw bod yna lawer o bethau y gall cyflogwyr eu gwneud i ofalu am iechyd meddwl eu gweithwyr. Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth, adnoddau ac arweiniad i gyflogwyr er mwyn helpu i gynnal iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle a chyfeirio at wasanaethau a all gynnig cymorth i weithwyr os oes angen.
Mae'r camau canlynol yn seiliedig ar ymchwil am yr hyn sy'n gweithio yn y gweithle: