Neidio i'r prif gynnwy

SilverCloud

SilverCloud

Gall pobl ar draws Cymru yn awr gael mynediad at therapi ar-lein am ddim heb orfod gweld eu Meddyg Teulu.

Gall bobl 16 oed a hŷn sy’n goddef o bryder ysgafn i gymedrol, iselder neu straen gofrestru ar gwrs therapi 12 wythnos ar-lein, SilverCloud  drwy eu ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur.

Mae cyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein ar gyfer poblogaeth 16 oed a hŷn Cymru yn cydnabod bod pobl angen help ar unwaith i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles wrth i effaith COVID-19 barhau, ac mae’n lleihau rhwystrau i gael mynediad at y gefnogaeth hon.

 

Mae SilverCloud yn driniaeth therapi ar-lein am ddim sy'n cael ei hyrwyddo gan y GIG yng Nghymru sy'n defnyddio dulliau sydd wedi eu profi fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) i helpu pobl dros 16 oed i reoli ystod o gyflyrau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Mae'r gwahanol raglenni sydd ar gael yn cwmpasu iselder, gorbryder cyffredinol, gorbryder cymdeithasol a gorbryder iechyd, yn ogystal ag OCD, panic, a ffobiâu.

Am ragor o wybodaeth ewch i

Raglenni SilverCloud (Saesneg yn unig)