Neidio i'r prif gynnwy

Cyflyrau iechyd meddwl a llesiant

Iechyd meddwl cyffredin a chyflyrau llesiant yn y gweithle:

Hwyliau isel, tristwch ac iselder

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n drist weithiau. Fodd bynnag mae fel arfer yn bosib gwella hwyliau isel drwy wneud newidiadau bach i'ch bywyd.

Gall symptomau hwyliau isel gynnwys:

  • Teimlo'n drist
  • Teimlo'n bryderus neu fynd i banig
  • Teimlo'n fwy blinedig nag arfer neu fethu cysgu
  • Teimlo'n flin neu'n rhwystredig
  • Teimlo'n isel ar hyder neu hunan-barch

Os yw'r teimladau o hwyliau isel yn para pythefnos neu fwy, gallai hyn fod yn arwydd o iselder.

Yn ogystal â'r uchod, gall symptomau iselder gynnwys:

  • Peidio cael unrhyw fwynhad allan o fywyd
  • Teimlo'n anobeithiol
  • Methu canolbwyntio ar bethau bob dydd
  • Cael meddyliau hunanladdol neu feddyliau am niweidio'ch hun

Mae gan y GIG adnodd hunanasesu a all helpu unigolion i nodi sut maent yn teimlo a chysylltiadau ag ystod o gefnogaeth a sefydliadau hunangymorth a all helpu gyda hwyliau isel, tristwch ac iselder.

GIG Hwyliau isel, tristwch ac iselder (Saesneg yn unig)

Gweler hefyd Rheoli cyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl ledled Cymru.

Straen a Gorbryder

Mae cysylltiad agos rhwng straen a gorbryder ac maent yn rhannu llawer o'r un symptomau.

Straen yw ymateb y corff i fygythiad neu sefyllfa (dirboenwr). Mae pobl sydd â straen fel arfer yn ymwybodol y byddai eu lefelau straen yn gostwng pe gallent ddatrys eu straen. Fel arfer mae hyn yn wir. Fodd bynnag, gall effaith gronnus llawer o dirboenwyr bach arwain at straen cronig.

Mae gorbryder yn set o deimladau sy'n digwydd hyd yn oed os nad oes straeniau amlwg. Yn wahanol i straen, mae sawl math o anhwylder gorbryder diagnosadwy. (Darganfod mwy am ystod o gyflyrau iechyd meddwl)

Gall symptomau straen a gorbryder gynnwys:

Symptomau corfforol

Symptomau meddyliol

Newidiadau mewn Ymddygiad

cur pen neu bendro

tyndra neu boen yn y cyhyrau

problemau stumog

poen yn y frest neu guriad calon cyflymach

problemau rhywiol

anhawster canolbwyntio

brwydro i wneud penderfyniadau

teimlo wedi eich llethu

poeni’n gyson

bod yn anghofus

bod yn llidiog a bachog

cysgu gormod neu ddim digon

bwyta gormod neu ddim digon

osgoi rhai mannau neu bobl

yfed neu ysmygu mwy

Y rheswm pwysicaf dros ddeall a yw unigolyn naill ai dan straen neu'n orbryderus yw gallu adnabod yr opsiynau triniaeth gorau. Anaml iawn y caiff gorbryder ei reoli gyda dim ond newidiadau ffordd o fyw a/neu yn y gweithle a gall fod angen opsiynau triniaeth fel therapi a/neu feddyginiaeth (Gweler Rheoli cyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle). Er bod symptomau straen yn debyg, efallai y bydd gweithwyr yn gallu adnabod eu dirboenwr ac awgrymu newidiadau i'r gweithle a allai eu helpu.

Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, gweler ein partneriaid dibynadwy isod: