Neidio i'r prif gynnwy

Adduned Amser i Newid Cymru

Amser i Newid Cymru

Cyflwynir ymgyrch Amser i Newid Cymru gan bartneriaeth o ddwy elusen iechyd meddwl arweiniol yng Nghymru.

  • Hafal yw'r prif sefydliad yng Nghymru sy'n gweithio gydag unigolion sy'n gwella o salwch iechyd difrifol a'u teuluoedd. Cânt eu rheoli gan y bobl y maent yn eu cefnogi - unigolion â salwch meddwl difrifol a'u gofalwyr.
  • Mind Cymru sy'n ymgyrchu dros newid yng Nghymru ar ran Mind. Mae popeth a wna ar sail profiad uniongyrchol pobl o drallod emosiynol, ac mae'n ymgyrchu'n egnïol i greu cymdeithas sy'n hyrwyddo iechyd meddwl da ac sy'n herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Adduned Amser i Newid Cymru

Mae Addewid Gweithredol Amser i Newid Cymru yn ddatganiad cyhoeddus bod sefydliad am fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu mewn perthynas ag iechyd meddwl. Mae Amser i Newid Cymru yn darparu canllawiau ac adnoddau i gefnogi cyflogwyr i ddatblygu cynllun gweithredu, a hyfforddi Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl a Llesiant o fewn y gweithle.

Adduned Amser i Newid Cymru