Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r cyngor ar frechlynnau COVID-19 yn ystod beichiogrwydd?

 

Mae'r Cyd-bwyllgor ar  Imiwneiddio a Brechu (JCVI), grŵp arbenigol annibynnol, wedi cynghori bod menywod beichiog yn wynebu risg uwch o ganlyniadau difrifol o glefyd COVID-19.Mae’n bwysig bod menywod beichiog yn cael eu brechu'n llawn cyn gynted â phosibl. Ni ddylent oedi brechu tan ar ôl iddynt roi genedigaeth. Mae hyn er mwyn eu hamddiffyn nhw a'u babanod.

Mae cannoedd ar filoedd o fenywod beichiog wedi'u brechu â brechlynnau Pfizer neu Moderna yn y DU ac nid oes unrhyw faterion diogelwch wedi'u nodi. Mae brechu yn effeithiol iawn o ran atal clefyd COVID-19 difrifol. Nid yw'r brechlynnau hyn yn cynnwys coronafeirws byw ac ni allant heintio menyw feichiog na'i babi yn y groth.

Dylai unrhyw un sydd eisoes wedi dechrau brechu ac sy'n cael cynnig ail ddos tra'n feichiog gael ail ddos gyda'r un brechlyn oni bai eu bod wedi cael sgil-effaith ddifrifol ar ôl y dos cyntaf.