Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn fwy tebygol o gael rhai heintiau a salwch sy'n gallu bod yn niweidiol i chi a'ch babi sy'n datblygu.
Brechu yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn menywod beichiog a'u babanod rhag clefydau difrifol fel y coronafeirws, ffliw a'r pas.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal clefyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi a'ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff rydych yn eu datblygu'n cael eu trosglwyddo i'ch babi heb ei eni, gan helpu i'w amddiffyn yn ystod ei wythnosau cyntaf o fywyd.
Cyn beichiogi, gwiriwch fod eich brechiadau'n gyfoes i amddiffyn yn erbyn clefydau sy'n gallu achosi salwch ynoch chi neu'ch babi heb ei eni.
Gall brechiadau COVID-19, ffliw a’r pas yn ystod beichiogrwydd helpu i'ch cadw chi a'ch babi'n ddiogel.
Mae’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Mae brechlynnau ffliw a'r pas wedi'u rhoi'n ddiogel i fenywod beichiog ers blynyddoedd lawer, ac mae mwy na 200,000 o fenywod beichiog bellach wedi cael brechlynnau COVID-19 heb unrhyw bryderon diogelwch.
Fodd bynnag, fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn gweithio drwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o'r sgil-effeithiau hyn yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac nid yw pawb yn eu cael.
Y sgil-effaith fwyaf cyffredin yw braich ddolurus lle cawsoch y pigiad. Mae sgil-effeithiau eraill yn cynnwys twymyn, teimlo'n flinedig, poenau cyffredinol, oerfel neu symptomau tebyg i ffliw, chwyddo'r fraich y cawsoch y brechiad ynddi, colli archwaeth, anniddigrwydd, a phen tost/cur pen. Mae sgil-effeithiau difrifol yn brin iawn.
Mae'r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw eich symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch GIG 111. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu fydwraig, sicrhewch eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiadau er mwyn iddynt allu eich asesu'n iawn.
Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy chwilio am y cynllun Yellow Card, drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Gallwch gael y brechlyn ffliw ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Mae'r brechlyn ffliw yn cael ei argymell bob tro rydych yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn yn y gorffennol. Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn yn erbyn mathau newydd o'r feirws ac yn lleihau'r risg o ledaenu ffliw i'ch babi.
Mae'n bwysig bod menywod beichiog yn cael yr holl ddosau a argymhellir o'r brechiad COVID-19 cyn gynted â phosibl. Gellir rhoi'r brechlyn ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd. Mae adroddiadau o bob rhan o'r byd yn dangos bod brechlynnau Pfizer a Moderna yn ddiogel i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.
Mae brechlyn y pas (Boostrix-IPV) yn ddiogel iawn, ac argymhellir ei roi rhwng 16 wythnos a hyd at 32 wythnos o feichiogrwydd. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i'r babi gael ei amddiffyn o'i enedigaeth, gan y byddwch wedi trosglwyddo eich gwrthgyrff iddo cyn iddo gael ei geni. Mae brechlyn y pas yn cael ei argymell bob tro rydych yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn yn y gorffennol.
Mae manteision bwydo ar y fron yn hysbys, a gellir rhoi'r holl frechlynnau hyn yn ddiogel i fenywod sy'n bwydo ar y fron. Gall y gwrthgyrff rydych yn eu gwneud yn dilyn brechu drosglwyddo i laeth eich bron. Efallai y bydd y rhain yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i'ch babi yn erbyn y clefydau hyn. Mae olion bychain iawn o'r brechlyn COVID-19 wedi'u canfod yn llaeth y fron rhai menywod sydd wedi'u brechu ond maen nhw'n diflannu ar ôl ychydig ddyddiau. Does dim tystiolaeth o niwed i’r babi ac mae disgwyl i unrhyw olion gael eu torri i lawr gyda llaeth y fron yn stumog y babi.
Ni ddylech roi'r gorau i fwydo ar y fron cyn eich brechiad a gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer wedyn.
Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y brechlyn COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb mewn menywod neu ddynion. Os ydych yn ystyried beichiogi, y brechlyn yw'r ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch babi yn erbyn risgiau hysbys coronafeirws yn ystod beichiogrwydd. Nid oes angen i chi osgoi beichiogrwydd ar ôl cael brechiad coronafeirws.
Byddwch yn cael gwybodaeth gan y GIG ynghylch pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych yn siŵr beth sydd orau i chi, trafodwch hyn gyda'ch bydwraig, a fydd yn esbonio mwy ynghylch y brechlynnau a sut y gallant helpu i'ch amddiffyn chi a'ch babi. Mae'n ddiogel cael yr holl frechlynnau yn yr un apwyntiad os yw'n briodol.
Os ydych yn sâl ar adeg eich apwyntiad, mae'n well aros nes y byddwch wedi gwella cyn cael eich brechlynnau, ond dylech geisio eu cael cyn gynted â phosibl.
Mae brechlynnau eraill efallai y byddwch am eu trafod gyda'ch bydwraig. Mae’r rhain yn cynnwys Hepatitis B a BCG sy'n helpu i amddiffyn yn erbyn TB (twbercwlosis). Mae'r brechlynnau hyn yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl iddynt gael eu geni.
Efallai y cewch gynnig y brechlyn MMR (sy'n amddiffyn yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela) yn fuan ar ôl i chi gael eich babi os nad ydych wedi cael dau ddos o'r brechlyn hwn yn flaenorol. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael dau ddos, gwiriwch gyda'ch meddyg teulu. Mae MMR yn frechlyn byw (wedi'i wanhau) felly nid yw'n cael ei roi yn ystod beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi, neu gallwch gael y brechiad ar ôl i'ch babi gael ei eni.
Pan fydd eich babi'n cael ei eni byddwch yn cael eich gwahodd i ddod ef i gael ei frechiadau rheolaidd, fel arfer yn eich meddygfa neu glinig babi. Bydd eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd yn gallu dweud wrthych am y rhain.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau a gynigir yng Nghymru yn: icc.gig.cymru/brechlyn
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, gan gynnwys eu cynhwysion a sgil-effeithiau posibl, yn www.medicines.org.uk/emc
Bydd angen i chi roi enw'r brechlyn yn y blwch chwilio.
Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynecolegwyr: www.rcog.org.uk/covid-vaccine
Gallwch roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir yn www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, ewch i 111.wales.nhs.uk, siaradwch â'ch meddyg neu fydwraig neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i: 111.wales.nhs.uk/amdanomni/eichgwybodaeth
I gael y daflen hon mewn fformatau eraill ewch i:
icc.gig.cymru/brechlynnau/adnoddau-hygyrch
© Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awst 2022
Fersiwn 1