Neidio i'r prif gynnwy

Y rhaglen feirws syncytiol anadlol (RSV) i fenywod beichiog er mwyn amddiffyn babanod

Cefndir 

Mae RSV (feirws syncytiol anadlol) yn achos cyffredin o heintiau'r llwybr anadlol. I'r rhan fwyaf o oedolion a phlant, mae haint RSV yn achosi salwch ysgafn, megis peswch neu annwyd, sydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, i rai, yn enwedig babanod o dan flwydd oed ac oedolion hŷn, gall RSV fod yn ddifrifol iawn a gall achosi bronciolitis a niwmonia. Mae o leiaf hanner yr holl blant yn dioddef o RSV yn eu blwyddyn gyntaf o fywyd a bydd bron pob un ohonynt wedi ei gael erbyn eu bod yn ddwy oed. 

  • Gall RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn ond mae'n fwy cyffredin yn ystod yr hydref a'r gaeaf. 

  • Mae mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru yn mynd i'r ysbyty oherwydd y feirws. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf.  

  • Os ydych wedi cael haint RSV yn y gorffennol, nid yw'n golygu na allwch gael RSV eto.

 

 

Cymhwyster ar gyfer y brechlyn 

Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i'ch baban, dylech gael eich brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. 

Dylid cynnig y brechlyn i chi tua'r adeg y byddwch yn cael eich apwyntiad cynenedigol 28 wythnos. Os nad ydych wedi clywed erbyn yr adeg hon, cysylltwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu i wneud apwyntiad.  

Mae'r brechlyn yn fwy effeithiol rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi yn cael ei eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol. 

  • Bydd cael y brechlyn ym mhob beichiogrwydd yn rhoi’r amddiffyniad gorau i bob baban rhag salwch RSV difrifol. 

  • Mae'n bwysig cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd. 

I gael gwybodaeth am frechlynnau eraill yn ystod beichiogrwydd, ewch i Gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd 

Beth fydd yn digwydd os na chefais y brechiad RSV yn ystod beichiogrwydd? 

Os oeddech wedi methu eich brechiad RSV yn ystod beichiogrwydd, siaradwch â'ch bydwraig oherwydd gallech ei gael o bosibl ar ôl yr enedigaeth. Ni fydd hyn yn amddiffyn eich babi’n uniongyrchol, ond gallai eich amddiffyn a’ch atal rhag trosglwyddo RSV i’ch babi o bosibl. Os ydych yn bwydo ar y fron, nid oes tystiolaeth o unrhyw risg i'r baban o ganlyniad i gael y brechlyn. 

Am y brechlyn  

Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi bodloni safonau diogelwch llym i'w defnyddio yn y DU ac maent yn ddiogel iawn. Fel yn achos pob meddyginiaeth a brechlyn, bydd unrhyw adroddiadau o sgîl-effeithiau yn cael eu monitro a'u hadolygu'n agos. 

Mae'r brechlyn RSV yn ddos ​unigol a roddir yn rhan uchaf y fraich. 

Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn RSV, gallwch ddarllen y daflen i gleifion.  

 

Diogelwch ac effeithiolrwydd

 

Adnoddau

I gael gwybodaeth am imiwneiddiadau cyntaf eich babi, ewch i:  

icc.gig.cymru/AmserlenGyflawn 

 

 

Mwy o wybodaeth

Feirws syncytiol anadlol (RSV) | Prosiect Gwybodaeth Brechlyn (ox.ac.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig)