Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw risgiau clefyd COVID-19 yn ystod beichiogrwydd?

Os oes gennych glefyd COVID-19 yng nghamau diweddarach beichiogrwydd, rydych chi a'ch babi yn fwy tebygol o gael salwch difrifol ac angen triniaeth ysbyty a chymorth gofal dwys. Mae data'r DU wedi dangos nad oedd bron pob menyw feichiog â chlefyd COVID-19 yr oedd angen triniaeth ysbyty neu ofal dwys arni, wedi cael ei brechu.

Mae menywod beichiog sydd â'r cyflyrau meddygol sylfaenol canlynol yn wynebu risg uwch o ddioddef cymhlethdodau difrifol o glefyd COVID-19:

  • problemau imiwnedd
  • diabetes
  • pwysedd gwaed uchel
  • clefyd y galon
  • asthma difrifol

Neu os ydych:

  • dros bwysau
  • dros 35 oed
  • yn nhri mis olaf beichiogrwydd (dros 28 wythnos)
  • cefndir ethnig leiafrifol Du neu Asiaidd
  • heb eich brechu neu wedi'ch brechu'n rhannol

Mae'r risg gyffredinol o glefyd COVID-19 i chi a'ch babi newydd yn isel ond mae wedi cynyddu ers tonnau cyntaf COVID-19.