Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Byddwch yn cael gwybod pryd a ble i gael eich brechu. Ar ddiwrnod yr apwyntiad, gwisgwch ddillad ymarferol fel ei bod yn hawdd cyrraedd rhan uchaf eich braich. Os oes gennych ofn nodwyddau neu os ydych yn teimlo’n bryderus, rhowch wybod i’r person sy’n rhoi'r brechiad i chi. Bydd yn deall ac yn eich cefnogi.

Mae'n bwysig cael pob dos o'r brechlyn i roi'r amddiffyniad tymor hwy gorau i chi. Cadwch eich cerdyn yn ddiogel a sicrhewch eich bod yn cael eich ail ddos ac yna'r pigiad atgyfnerthu.