Os ydych yn sâl, mae'n well aros nes y byddwch wedi gwella cyn cael eich brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl.
Ni ddylech fynd i apwyntiad brechu os ydych yn hunanynysu neu'n aros am brawf COVID-19 neu o fewn pedair wythnos i gael prawf COVID-19 positif.