Nid oes unrhyw frechlynnau yn gwbl effeithiol felly RHAID i chi barhau i ddilyn unrhyw gyfyngiadau cenedlaethol neu leol a:
Cofiwch:
Mae COVID-19 yn cael ei ledaenu drwy ddafnau sy’n cael eu hanadlu allan o’r trwyn neu’r geg, yn enwedig wrth siarad neu besychu. Gellir ei ddal hefyd drwy gyffwrdd â'ch llygaid, eich trwyn a’ch ceg ar ôl cyffwrdd â gwrthrychau ac arwynebau wedi’u llygru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, ewch i 111.wales.nhs.uk, siaradwch â'ch meddyg neu fydwraig neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
Os nad yw 111 ar gael yn eich ardal chi, ffoniwch 0845 46 47. Mae galwadau o linellau tir a ffonau symudol yn costio 2c y funud (ynghyd â thâl arferol eich darparwr ffôn).