Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Gorfforol Iach: Iechyd y Geg

Mae iechyd y geg da yn bwysig i iechyd a llesiant. Gall trefn frwsio/lanhau reolaidd helpu i leihau'r risg o broblemau iechyd y geg, poen, anghysur a cholli dannedd. 

Negeseuon allweddol ar gyfer cynnal iechyd y geg da:

  • Brwsiwch ddannedd naturiol ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid
  • Defnyddiwch edau dannedd rhwng dannedd naturiol bob dydd
  • Glanhewch ddannedd gosod bob dydd gyda chynhyrchion gofal y geg
  • Mynnwch archwiliadau deintyddol rheolaidd
  • Sicrhewch ddeiet cytbwys iach, gan gyfyngu ar alcohol a siwgr

Y GIG
Gofalu am eich dannedd a'ch deintgig  

Age Cymru
Gwasanaethau deintyddol i bobl hŷn

Galw Iechyd Cymru
Mynediad i ofal deintyddol brys: Os oes gennych boen, y ddannoedd, trawma deintyddol neu chwyddo, defnyddiwch Wiriwr Symptomau Galw Iechyd Cymru neu cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 24 awr y dydd 0845 4647 

Cymdeithas Alzheimer's
Dementia ac Iechyd y Geg: Os ydych yn byw gyda dementia neu'n cael eich effeithio ganddo, mae Cymdeithas Alzheimer's yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar faterion iechyd y geg.

Materion Gofal y Geg
Cefnogi rhywun i ymarfer iechyd y geg da. Wedi'i datblygu gan Addysg Iechyd Lloegr, mae'r rhaglen hon yn cefnogi pawb sy'n darparu gofal personol i gleifion mewn lleoliad acíwt, cartref gofal neu gymunedol. Mae amrywiaeth o glipiau ac animeiddiadau byr ar gael i'w lawrlwytho i gefnogi'r broses o hyrwyddo negeseuon allweddol.