Neidio i'r prif gynnwy

Oedolion hŷn

Gofynnwyd i bob un ohonom aros gartref er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws, gyda chanllawiau penodol i oedolion hŷn neu'r rhai sydd mewn mwy o berygl.

Gall creu arferion newydd ac addasu i'r newidiadau hyn deimlo'n anodd. Mae teimlo'n bryderus neu'n rhwystredig yn normal, felly mae'n bwysig cymryd camau i ofalu am eich llesiant meddyliol.

Defnyddiwch y dull canlynol er mwyn helpu i dawelu eich meddwl a gofalu am eich teimladau, eich corff, eich meddyliau a'r hyn rydych yn ei wneud bob dydd:

  • Gweithgareddau i dawelu'ch meddwl - i'ch helpu i deimlo'n well
  • Rhoi sylw i anghenion sylfaenol – i helpu eich corff 
  • Dysgu i ailfeddwl - i helpu eich meddyliau 
  • Gwneud i'ch hun deimlo'n dda - i helpu'r hyn rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd  

Edrychwch ar ein tudalen ‘Sut i ofalu am eich llesiant’ i gael syniadau cyffredinol ar sut i beidio â chynhyrfu.

Cadw'n iach ar gyfer y genhedlaeth hŷn 

Yn ystod y cyfnod heriol hwn byddwn yn treulio llawer mwy o amser gartref ac ar wahân i'n teulu a'n ffrindiau. Bydd hyn yn golygu rhai newidiadau mawr i'n gweithgareddau a'n harferion arferol.  O ganlyniad, mae gofalu am ein hiechyd meddwl a chorfforol yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed. Mae gennym rai awgrymiadau a dolenni defnyddiol isod i helpu gyda hynny.

  • Meddwl am amseroedd cadarnhaol, mae ymchwil yn dweud bod hyn yn dda i ni: mae mynd drwy hen ffotograffau a siarad am eich atgofion ag eraill yn gallu helpu.